Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, yn dyfod i'r golwg yn y cynghor uchod i'r pregethwr ieuanc. Pan oedd Mr. Williams yn byw yn 128, Islington, cymerodd amgylchiad le, ag oedd yn golledus ac yn boenus iddo ef a'i deulu, drwy waith lladron yn tori i fewn i'w dŷ, a hyny ar ddydd Sabbath, pan yr oedd yr oll o'r teulu yn y capel. Dygasent ymaith ugain punt a goblet arian. Gwyddent yn ddiau yn nhy pwy yr oeddynt, oblegid o wawd, ysgrifenasant ar bapur y geiriau pwysig watch and pray, gan ei adael ar y bwrdd. Bedyddiodd Mr. Williams ferch fechan yn y Tabernacl y Sabbath hwnw, yr hon a adwaenir heddyw fel Mrs. Price, Caemynydd, ger y Wern. Yr oedd ei rhieni hi yn byw ar y pryd yn Liverpool. Dywedodd Mr. Williams y boreu Llun canlynol wrth ei gymydog, Mr. Edward Owen, Corn and Flour Merchant—"Wel, pe y daethent wythnos i ddoe, yr oedd yma dri ugain punt yn y ty, ond telais ddeugain punt yr wythnos ddiweddaf am ysgol Jane, felly ni chawsant ond ugain punt a'r goblet arian. Cymerodd y cwbl yn hollol dawel; eto, effeithiodd yr amgylchiad anffodus yn fawr arno. Clywsom Dr. John Thomas yn dweyd y bydd llawer yn Liverpool yn defnyddio yr amgylchiad uchod fel rheswm dros adael rhywun o'r teulu adref o'r addoliad ar y Sabbath, i ofalu am y ty; canys meddant, os torodd lladron i dŷ Mr. Williams, Wern yma, beth am ein tai ni. Yr oedd dirwest wedi dyfod yn bwnc y dydd yn Nghymru