Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr adeg hon, a galwad mawr ar holl bleidwyr yr achos dirwestol i wasanaethu mewn cyfarfodydd yn mhob cwr o'r wlad. Yr ydym yn cael Mr. Williams, yn nechreu y flwyddyn 1838, yn cychwyn allan o'i dŷ, a hyny ar ddiwrnod eithriadol o oer a thymhestlog i fyned i Fostyn i gyfarfod dirwestol. Aeth i lawr at y Pier Head i ddysgwyl am ager—long i hwylio drosodd. Safodd i ddysgwyl yn y gwynt a'r gwlaw bron hyd fferdod. Wrth ei weled o dan effeithiau cryndod felly, dywedodd ei gyfaill, Mr. James Dudding, wrtho y dylasai efe gymeryd ychydig o rywbeth i'w gynesu. "Na, thal hyny ddim byd James bach," meddai yntau, "yr wyf yn myned i areithio ar ddirwest yn Mostyn, a rhaid bod yn gyson ac yn egwyddorol gyda hyn, fel gyda phobpeth arall." Wedi dysgwyl llawer am i'r llong gychwyn ymaith, rhoddwyd ar ddeall o'r diwedd, ei bod o herwydd y gwynt gwrthwynebus, nerth ac enbydrwydd y dymhestl, yn rhoddi i fyny i fyned y diwrnod hwnw, ond yr oedd Mr. Williams yn benderfynol o fyned i'w neges, a thraddodi ei genadwri; a rhedodd bron yr holl ffordd o'r Pier Head i orsaf y cerbyd oedd ar gychwyn i Gaernarfon, yn y cyflwr hwnw, wedi chwysu wrth redeg, a'i ddillad yn wlybion am dano, y cymerodd ei le yn y cerbyd. Cyrhaeddodd i Dreffynon, lle y lletyodd y noson hono. Teimlai ar ei daith fod rhyw gryndod hynod yn cymeryd meddiant o hono, ac er gorphwys mewn llety clyd a chysurus, ni