Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD I.

BOREU EI OES 1781—1791.

Y CYNWYSIAD—Dynion gwerth eu cofio—Mr. Williams yn un o honynt Lle ei enedigaeth—Enw ei gartref yn cael ei sillebu mewn gwahanol ddulliau—Amgylchoedd ei gartref yn fanteisiol i berchenogion Athrylith—Priodas rhieni ein gwrthddrych—Nodwedd ei henafiaid—Y Parch. John Williams, Dolyddelen, yn cael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd mam Mr. Williams at grefydd—Ei frodyr a'i chwiorydd—Cyfamod ei dad âg ef—Yntau yn ei gadw—Myned i Frynygath, neu i Lanfachreth, cyn adeiladu Capel Penystryd—Cymeryd llwy oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf—Ei fam yn myned ag ef i'w danfon yn ol, ac yn gweddio drosto—Ei hoenusrwydd yn amlwg—Ei dad yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd—Henafgwr yn yr ardal yn ei weled yn wahanol i blant eraill y Cwm—Tuedd athronyddol ei feddwl yn dyfod i'r golwg yn foreu ar ddydd ei fywyd.

DYNION gwerth eu cofio, "Men worth remembering," ydyw teitl cyfres neillduol o gyfrolau gwerthfawr, a ddygir allan o'r wasg yn Lloegr ar ddynion enwog; a phe y buasai enwogion Cymru yn y rhestr ddyddorol, nid oes neb a wyr ddim am hanes Cymru a'i chrefydd, yn enwedig yn mhlith yr Annibynwyr, yn ystod y