ganrif hon, na chydnebydd gyda pharodrwydd, mai nid trais yn neb yw tybied, y buasai ein gwron yn hawlio lle amlwg yn mysg y cyfryw. ddynion; a hyny oblegid ei dduwioldeb diamheuol, ei athrylith fyw a nefol, ei dalentau dysglaer, a'i wasanaeth anmhrisiadwy i grefydd efengylaidd yn ein gwlad am gyfnod maith.
Ar y cyfrif uchod, nis gellir ei anghofio ef, canys. y mae ei enw wedi ei gerfio mor ddwfn a sicr ar lech calon y genedl Gymreig, a'i goffadwriaeth wedi ei wisgo âg anfarwoldeb, fel y mae mor ddiogel yn ei mynwes, ag ydyw mynyddoedd Gwyllt Walia yn eu safleoedd.
Ystyriaeth o'r gwerth a berthyn i'w hanes, a'r ymwybyddiaeth fod ei athrylith, a'i dalentau amrywiol, wedi eu cysegru, a'u cyflwyno yn gyfangwbl ganddo, ar allor crefydd i lesoli eraill, sydd wedi. ein symbylu i osod y darllenydd mewn mantais i feddu gwybodaeth helaethach am dano, yn holl deithi ei gymeriad, ac i ddyfod i gyfathrach agosach âg ef yn holl gylchoedd ei wasanaeth dros Dduw.
Ganwyd ein gwrthddrych yn Cwmhyswn Ganol, plwyf Llanfachreth, swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1781. Amaethdy bychan gwledig, a hollol ddiaddurn, ar lethr y mynydd, mewn lle hynod o agored, heb fod yn nepell oddiwrth waith aur enwog ac adnabyddus Gwynfynydd yw Cwmhyswn Ganol Ty cymharol newydd yw yr un