Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

presenol, ond y mae yr hwn a arddangosir yn y darlun yn rhan o'r hen dy, ac o ran ei ffurf allanol, y mae yn hollol fel yr ydoedd yn nyddiau boreuol Mr. Williams. Wrth ei dalcen gorllewinol, y mae tair o goed wedi tyfu yn uchel a phreiffion, ac y maent fel pe yn gwasanaethu er diogelu y drigfan rhag rhuthriadau ystormydd o'r cyfeiriad hwnw. Cyfyd y tir i fyny wrth dalcen uwchafy ty, nes bod bron yn gydwastad â'r corn mwg. Oddiwrth y ty eir i lawr ar hyd llechwedd y mynydd, yr hwn sydd yn llechweddu, ac yn ymestyn hyd at bistylloedd mawrion ac ardderchog Cain a Mawddach, ychydig islaw i'r annedd enwog.

Sillebir enw yr annedd uchod mewn gwahanol ffyrdd, megys Cwmhyswn, Cwmhwyswn, Cwmhwyson, a Cwmeisian; ac amryfal yw yr esboniadaeth a roddir ar darddiad ac ystyr y gair. Bernir gan rai mai Cwm-y-swn, neu Cwm-dwfr-swn, yw ystyr briodol yr enw. Mae yno swn, canys y mae pistylloedd Cain a Mawddach yn rhuo yn drystfawr ar amserau, gan wneuthur "swn dyfroedd lawer," wrth ruadru dros y creigiau i'r gwaelodion, fel nad yw yr ystyr a nodwyd yn ymddangos mewn un modd yn un hollol annaturiol. Ond rhaid cofio fod yn y Cwm rywbeth heblaw swn, ac o herwydd hyny, dichon mai ystyr arall sydd i darddiad yr enw. Yn wir, gellir talu ymweliad â Chwmhyswn Ganol, ar sychder haf, a thybied mai yno y cartrefa dystawrwydd, ac os oes barddoniaeth mewn