Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhob man, o'r funyd yr aeth i law y bragwr, nes myned i gylla yr yfwr. Creadur Duw, wedi ei ddarostwng wrth ei gymeryd o'i le a'i gamddefnyddio ydoedd. Yr oedd y dorf yn ei law o'r foment yr agorodd ei enau hyd y diwedd, a siaradai yn hollol ddiymdrech. Erbyn y cyfarfod hwyrol yr oedd y lluaws o'r ardaloedd cylchynol wedi myned ymaith, ond yr oedd ar ol dyrfa fawr. oedd ar ol dyrfa fawr. Dywedodd Mr. Pugh ei fod yn dymuno galw un i'r gadair oedd yn anwyl iawn gan bawb yno, ac un a lafuriodd yno gyda pharch a llwyddiant mawr, ac ar hyny cymerodd Mr. Rees, y pryd hwnw o Ddinbych, y gadair. Nid wyf yn cofio am ddim yn arbenig a ddywedodd, ond yr wyf yn cofio yn dda ei fod yn ddifrifol iawn. Yr oeddwn wedi darllen ei anerchiad ymadawol wrth adael Mostyn i fyned i Ddinbych; anerchiad dirwestol ydoedd, oblegid dyna, ar y pryd, oedd pwnc y dydd, ac yr oedd Mr. Rees yn un o'r rhai dewraf o'r cedyrn; ac ni ddarllenais na chynt na chwedyn, ddim byd yn fwy miniog ac argyhoeddiadol ar y mater. Mr. Williams oedd arwr y cyfarfod, ac wrtho ef yr oedd y dysgwyliad; ac er i amryw siarad, ac i minau yn fachgenyn gael yr anrhydedd o ddweyd gair, eto ychydig o sylw a delid i ddim a ddywedai neb, a dysgwylid i bob un orphen erbyn y dechreuai, er mwyn iddynt glywed Williams o'r Wern. Yr oedd ef yn nodedig o humorous y noson hono, yn fwy felly nag y clywais ef erioed; ond yr oedd