Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo, ar yr un pryd, sylwadau oeddynt fel bachau yn glynu." Dranoeth wedi cyfarfod Mostyn, ymddangosai ychydig yn well, a cherddodd yn nghwmni ei dri chyfaill hoff ac anwyl—y Parchn. William Rees, Dinbych; H. Pugh, Mostyn; ac E. Hughes, Treffynon, i Bagillt, i gynal cyfarfod dirwestol yno. Gallodd ddal y daith yn weddol, ond noswaith boenus a gafodd, ac erbyn boreu dranoeth, edrychai yn isel a llesg iawn. Dychwelodd y boreu hwnw yn ol i Liverpool, ac ar unwaith wedi cyrhaedd adref, aeth i'w wely, a bu mor wael am wythnosau fel yr ofnid na chyfodai mwy. Ei afiechyd oedd anwyd anarferol o drwm, o dan effeithiau yr hwn yr oedd fel pe yn cael ei fwyta ymaith gyda chyflymder mawr Nis gallai y meddygon drwy unrhyw foddion o'u heiddo ei chwysu am amser hir, ac heb hyny nid oedd ganddynt ond gobaith gwan am ei adferiad, ond o'r diwedd llwyddasant yn eu hamcan, a dechreuodd yntau ymloni a chryfhau yn raddol, ond eto, daliai y peswch caled ei afael ynddo. Wedi iddo ymgryfhau digon, cynghorodd ei feddyg ef i fyned drosodd i Gymru, fel y gallai yfed awelon iachus gwlad ei enedigaeth, ac mai hyny oedd y moddion tebygaf i'w alluogi i fuddugoliaethu ar ei afiechyd. Penderfynodd yntau fyned i Nanerch, Swydd Fflint, at Mr. John a Miss S. Jones, y rhai oeddynt eu dau bob amser yn garedig i achos a gweision y Duw Goruchaf. Yr oedd ei fab ieuengaf ar y