Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/324

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd yn Llanbrynmair, yn derbyn addysg gan y Parch. Samuel Roberts, M.A. Cyn cychwyn i'r daith hon, ysgrifenodd Mr. Williams at ei anwyl William y llythyr canlynol:—

"LLYNLLEIFIAD, Ebrill 16eg, 1838.

"ANWYL BLENTYN,

"Y mae yn ddrwg genyf fod eich teimladau mor ofidus o herwydd fy afiechyd; yr oeddwn yn ofni hyny, o herwydd bod cymaint o straeon yn cael eu taenu ar hyd y wlad. Mi a fum yn sal iawn, ond yr oedd Dr. Blackburn yn lled hyderus yr amser gwaethaf a fu arnaf; dywedai fod y lungs yn iach. Yr wyf yn dyfod yn well bob dydd yn awr, yn pesychu llai, ac yn dechreu teimlo gwell archwaeth at fy mwyd, yr hwn hefyd sydd yn cynyddu bob dydd. Y mae y Dr. yn fy nghynghori i fyned i'r wlad am dair wythnos neu fis, mor gynted ag y delo y tywydd yn ffafriol. Yr wyf yn bwriadu myned i Nanerch at Miss Jones, bydd yno le cysurus iawn i mi. Yr wyf yn gobeithio, ac yn gweddio ar fod yr afiechyd hwn o fendith fawr i mi, i'm dwyn i fyw yn nes at Dduw, ac i bregethu Crist yn well nag y darfu i mi erioed. Yr wyf yn teimlo awydd i fyw ychydig yn hwy er mwyn fy mhlant. Y mae llawer iawn o weddiau wedi, ac yn cael eu hoffrymu i'r nef ar fy rhan...... Anwyl blentyn, gobeithiaf eich bod yn ymdrechu cynyddu a myned rhagoch mewn dysg, ond yn