Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwedig mewn crefydd; crefydd yw sylfaen bywyd defnyddiol.

 Ffarwel, anwyl William,
 Ydwyf, eich cariadlawn Dad." [1]

Dengys y llythyr uchod ei ofal tadol am ei blant anwyl, yn gystal a'i fod yn ddangosiad o agwedd ei feddwl yn mhair cystudd. Efe a aeth i Nanerch, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar nodedig, a bu yno yn derbyn ymgeledd am oddeutu tair wythnos. Nid yn unig yr oedd ei letywyr caredig yn teimlo mai braint oedd iddynt hwy gael gweinyddu caredigrwydd iddo, ond teimlai yr holl ardalwyr hyny hefyd. Clywsom Mrs. Lloyd, Hersedd, Rhesycae, yn adrodd fel y byddai ei rhieni o Drellyniau yn ymweled âg ef, ac mor dda fyddai ganddi hithau, yn eneth ieuanc iawn y pryd hwnw, gael myned gyda'i mam i edrych am Mr. Williams Wern, a'r argraff ddaionus a adawodd hyny byth ar ei meddwl. Y mae walk gerllaw y ty yr arosai Mr. Williams ynddo yn Nanerch, a elwir hyd heddyw, yn "Walk Williams y Wern." Adeiladodd Mr. Jones eisteddleoedd esmwyth iddo un ar ganol y walk, a'r llall yn y pen uwchaf iddi. Gorphwysai yntau wedi cyrhaedd y gorphwysfanau hyn. Cysgodir un ochr i'r walk gan goed cysgod—fawr. Edrych, ddarllenydd, ar yr hen arwr yn cerdded ar y rhodfa hon. Nis gallai ar y cyntaf ond cerdded yn araf a gofalus iawn, gan osod y

  1. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudalen 39—40.