Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

naill droed ar ol y llall yn deg ac esmwyth ar y ddaear, gan mor ysig oedd ei babell ddaearol. Ymhyfrydai yn gwrando ar gerddorion y wig, y rhai a delorent yn hyfryd ar gangau y coed uwch ei ben, gan ollwng allan ffrwd o fiwsig pur, a meddyliai yntau am y mwyn gantorion hyny sydd yn canu â thelynau Duw ganddynt, yn y wlad sydd byth yn llawn o iechyd digymysg. Derbyniodd Mr. Williams yn Nanerch adgyfnerthiad, a meddyliodd y gwnaethai marchogaeth les iddo, ac wedi cael benthyg march, aeth am daith drwy ranau o Swyddi Arfon a Meirion, a dychwelodd yn ol, er wedi cryfhau i raddau, eto nid oedd dim wedi profi yn effeithiol i beri i'w beswch blin i ollwng ei afael yn llwyr o hono. Wedi ei ddychweliad i Liverpool o Nanerch, nid ymddangosai y gobeithion am ei adferiad, yn ol yr olwg oedd arno, ond gwanaidd iawn; ac nid oedd ofnau ei gyfeillion am dano, mewn un modd, wedi eu hymlid ymaith. Yn fuan wedi hyny, cynghorodd ei feddyg ef i gymeryd mordaith, a phenderfynodd yntau fyned i Ddublin ac Abertawe. Nid oedd ond am alw yn frysiog yn y lle blaenaf, i gael ymgynghoriad yno â meddyg neillduol. Dygwyddodd fod cadben llong o Abertawe yn Liverpool ar y pryd, ac wedi deall am fwriad Mr. Williams, addawodd llywydd y llong ei gymeryd yn rhad gydag ef, ac felly y bu. Ac er mai nid prophwyd yn ffoi oddiwrth ei ddyledswyddau oedd y passenger enwog, eto cawsent oll