Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/327

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeall fod morio yn enbyd y waith hono, canys cyfododd tymhestl wynt mawr, a bu raid i'r cadben orchymyn troi y llestr i borthladd Caergybi am ddiogelwch, lle y buont am oddeutu wythnos. Ond bu y cwbl er lleshad, canys cafodd gwr Duw drwy hyny gyfleusdra am y tro olaf am byth iddo ef, i weled ei gyfeillion crefyddol yn y dref hono; ac o herwydd fod ei beswch yn llai erbyn cyrhaedd y porthladd, yr oedd ef yn nodedig o siriol. Aeth i'r Tabernacl y Sabbath i wrando ar ei gyfaill, Mr. Griffith, yn pregethu. Traddododd Mr. Williams anerchiad oddiar fainc y sedd fawr y nos Sabbath hwnw, gan sefyll megys un yn syllu ar dragwyddoldeb. Yr oedd y lle yn ofnadwy, ac nid yw yr ychydig sydd yn aros o'r rhai oedd yno yn ei wrando byth wedi ei anghofio. Dywed y Parch. E. C. Davies, M.A., yn Nghofiant y Parch. W. Griffith, Caergybi, tudal. 185, am yr ymweliad hwnw o'i eiddo â'r Tabernacl, fel y canlyn: "Yr oedd ganddo ef (Mr. Griffith) ychydig enwau ag y soniai lawer iawn am danynt. Enw oedd yn fynych ar ei wefusau oedd enw ei hen gyfaill Williams o'r Wern. Ni flinai ar adrodd am dano a'i ddywediadau yn ystod yr wythnos y bu yr enwog Williams yn cael ei gadw gan y gwynt (wind bound) yn Nghaergybi, pan yn myned drosodd i Dublin at y meddyg yn ei waeledd olaf. Adroddai am Mr. Williams y nos Sabbath yn yr wythnos hono, yn codi ar ei draed yn y sêt fawr, wedi