Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo ef orphen pregethu, ac ar ol sefyll ar ei draed am foment fel pe mewn myfyrdod dwys, aeth i ben y fainc, a thraddodwyd un o'r anerchiadau rhyfeddaf a glywyd yn y Tabernacl erioed—safai y llefarwr megys ar riniog tragwyddoldeb, a'i eiriau megys awelon byd dyfodol, yn ysgubo pob teimlad o'u blaen. Ni chlywsai Mr. Griffith, ei hen gyfaill, am un a fu wrthi yn llefaru un amser gyda'r fath ddylanwad gorchfygol ei dawelwch a'i ddifrifoldeb."

Wedi i'r gwynt ostegu, ac iddynt hwythau gael yr awel o'u tu, hwyliasant allan o borthladd Caergybi. Nid ydym yn gwybod nifer y cyfeillion a'i hebryngasent ef i'r llong, ond pe y gwybuasid fod Williams o'r Wern yn myned o'r dref am y tro olaf, buasai yr holl drefwyr yno yn ffarwelio âg ef; ac yn sicr buasai yno wylo tost, a syrthio ar ei wddf i'w gusanu, cyn ymadael o hono am byth o'u goror. Wedi iddo gyrhaeddyd i Abertawe, gwahoddwyd ef yn garedig gan Mr. a Mrs. Hughes, Yskety isaf, i ddyfod i letya atynt hwy, ac yno y bu. Yn Nghofiant Mr. Williams gan Dr. Rees, tudal. 41, ceir a ganlyn o eiddo Mr. Thomas Nicholas, am ymweliad Mr. Williams â'r Yskety isaf:—"Bum yn ddiweddar trwy ran o Swydd Forganwg; bum yn lletya un noson yn Yskety isaf, y man y lletyai Mr. Williams pan y bu drosodd am ei iechyd, a lle y mae ei goffadwriaeth yn anwyl a bendigedig. Dywedai Mrs. Hughes fod ei ymddygiad tra y yno, yn wir ddelw o symledd, gostyngeiddrwydd,