Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a duwiolfrydigrwydd. Ofnai yn fawr rhag bod o ddim trafferth nac anghyfleusdra i neb; byddai yn hynod o ddiolchgar am y gymwynas leiaf: ac ymdrechai wneuthur rhyw addaliad am bob un. Ymddangosai yn dra awyddus am adferiad iechyd, fel y gallai wneud mwy o ddaioni; cwynai yn aml iawn nad oedd wedi gwneuthur nemawr iawn o ddaioni yn ei oes. 'Yr wyf yn penderfynu yn nghymhorth y nef, meddai, os caf wella, i bregethu yn well, a gweithio mwy nag erioed.' Daliodd Mrs. Hughes sylw arno un boreu, ei fod yn edrych yn hynod o bruddaidd ac isel ei feddwl, a chan dybied mai gwaeledd ei iechyd, ac nad oedd yn gwellhau cystal a'i ddysgwyliad oedd yr achos, hi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhyfeddu atoch, Mr. Williams, fod gwr o'ch bath chwi yn gofidio wrth feddwl am farw, mwy na phe byddech yn meddwl am fyw.' Taflodd olwg dreiddiol arni, ond methodd ateb gair; crymodd ei ben ychydig, a sylwai Mrs. Hughes fod y dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau; pan welodd hithau hyny, gadawodd ef, gan fyned i barotoi boreufwyd. Wedi i'r teulu ymwasgaru, galwodd arni, ac wedi iddi eistedd gerllaw iddo, dywedai, Dywedasoch gyneu eich bod yn rhyfeddu ataf fi, fy mod yn drwm fy nghalon gyda golwg ar farw; yn awr, mi a ddywedaf i chwi, y mae arnaf fawr awydd byw i wneud llawer mwy dros Grist nag a wnaethum erioed. O! nid wyf wedi gwneuthur dim. A pheth