Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall, dymunwn fyw nes gweled fy mhlant wedi tyfu i fyny i allu gofalu am danynt eu hunain.' Yr wyf yn meddwl mai dranoeth wedi'r ymddyddan uchod yr aeth Mr. Williams i Abertawe heb feddwl llai na dychwelyd yn ol i'r Yskety eilwaith, ond cafodd lythyr yn y dref oddiwrth ei deulu gartref, yn ei hysbysu fod ei fab hynaf wedi dychwelyd adref or Coleg i dalu ymweliad â'i deulu, penderfynodd i fyned adref y diwrnod hwnw gyda'r agerlong, 'rhag,' ebe efe, na 'chaf gyfle i'w weled ef byth mwy.' Felly ymadawodd â Morganwg. Cyrhaeddodd adref yn ddiogel. Yr oedd ei deulu erbyn hyn, wedi symud o 128, Islington, ac wedi myned i fyw i Great Mersey Street. Derbyniodd adgyfnerthiad sylweddol yn ystod ei fordaith, a'i arosiad yn yr Yskety, yr hyn a'i llonodd yn ddirfawr; ond er hyny, glynu wrtho yr oedd ei beswch, ac yr oedd y gorchymyn wedi myned allan oddiwrth y meddyg, yr hwn a'i gwaharddai rhag ail ddechreu pregethu yn ebrwydd wedi ei ddychweliad adref o Abertawe. Ond nid hawdd oedd ganddo roddi ufudd—dod i'r gorchymyn hwnw, canys yr oedd ei galon yn llawn meddyliau, a'r ysbryd oedd ynddo yn ei gymhell i'w mynegu i eraill, a chan nad allai efe ymatal yn hwy, yn nechreu mis Medi, y flwyddyn hono, efe a bregethodd oddiar Actau xxiv. 25: "Dos ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyf amser cyfaddas, mi a alwaf am danat." Yr oedd y gair o'i enau y nos