Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbath hwnw megys tân, ac fel gordd yn dryllio y graig; ac nid oedd y nerthoedd a deimlid y noson hono, ond ernes i'r eglwys o bethau mwy oeddynt i ddilyn, canys ymwelodd yr Arglwydd â'i bobl drwy y diwygiad crefyddol nerthol a dorodd allan yn eglwys a chynulleidfa y Tabernacl yn fuan wedi yr oedfa hono. Cynghorodd y meddyg Mr. Williams a'i ferch hynaf, yr hon, hithau oedd y pryd hwn yn llesg a gwanaidd iawn ei hiechyd, i fyned i Landrindod, ac aethent ill dau, a phrofodd yfed dyfroedd, a mwynhau awelon iachusol y lle hwnw yn ddaionus iddynt, a dychwelasant wedi ymsirioli llawer. Gallodd Mr. Williams bregethu ddwy waith bron bob Sabbath drwy y gauaf dilynol, heb deimlo ei hunan yn ddim gwaeth, ac am hyn yr oedd yn llawen, a llawenhai ei gyfeillion niferus hefyd, am eu bod yn gweled arwyddion yr estynid ei ddyddiau am gyfnod yn mhellach. Ond dychwelodd y cymylau ar ol y gwlaw, a duodd ei awyrgylch deuluaidd eilwaith, oblegid ar nos Sabbath, Ionawr 6ed, 1839, taflwyd corn mwg ei dŷ gan wynt mawr yr ystorm eithriadol hono, yr hwn a ddisgynodd drwy y tô i'r llofft, ac ar y gwely, gan ei falurio yn chwilfriw, ond trefnodd yr Hwn ag y mae y gwynt ystormus yn gwneuthur ei air Ef, nad oedd neb yn cysgu yn y gwely hwnw noswaith y drychineb fawr.