Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/332

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII.

O ADEG YR YSTORM FAWR YN LIVERPOOL HYD GYMANFA BETHESDA.—1839

Y CYNWYSIAD.—Ystorm fawr Liverpool Y Parch R. Parry, (Gwalchmai) yn galw yn nhy Mr. Williams dranoeth wedi yr ystorm—Gweddi effeithiol o eiddo Mr. Williams y boreu hwnw—Yr ystorm yn effeithio yn niweidiol ar iechyd ei ferch henaf, ac ar yr eiddo yntau hefyd—Llythyr Mr. Edwyn Roberts, Dinbych—Helynt "cario y faince" yn Liverpool—Agoriad capel y Rhos—Cymanfa Bethesda Llythyr y Parch. D. Griffiths—Mr. Williams yn pregethu yn Bethel, ac yn areithio ar ddirwest yn Siloh, Felin Heli—Ei bregeth nodedig ar etholedigaeth yn Bethesda—"Hen Gymanfaoedd," gan Mr. W. J. Parry, C.C—Cymanfa Bethesda y ddiweddaf i Mr. Williams bregethu ynddi—Anghydfod rhwng Dr. Arthur Jones a Mr. Williams—Dr. W. Rees yn llwyddo i'w cymodi a'u gilydd—Dr. Arthur Jones yn ei hebrwng ymaith i "gwr pellaf y traeth."

NID ydym yn hollol sicr pa un ai yn 18, Boundary Street, ai yn Great Mersey Street, yr oedd ein gwrthddrych yn byw pan y drylliwyd ei dŷ gan y rhuthrwynt mawr,