Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tueddir ni i gredu mai yn yr heol olaf a enwir y trigai efe ar y pryd hwnw, sef yn y ty a rifnodir yn awr â'r rhif 26, Great Mersey Street; ac iddo wedi hyny, symud i 18, Boundary Street, lle y bu hyd ei ymadawiad o Liverpool.

Yr oedd yr ystorm hono o ran ei ffyrnigrwydd a'i chyffredinol—rwydd y fath, fel y collodd cant a phymtheg eu bywydau gwerthfawr yn Liverpool a'r amgylch—oedd; a gwnaed difrod lawer iawn ar fywydau a meddianau ar dir a môr mewn lleoedd eraill hefyd. Bwriadai y Parch. R. Parry (Gwalchmai), letya yn nhy Mr. Williams, y noson y cymerodd yr ystorm le, ond lluddiwyd ef, fel nas gallodd gyrhaedd yno hyd dranoeth. Wedi iddo fyned i'r ty, arweiniodd ein gwron ef i'r ystafell yn yr hon yr oedd canoedd o geryg wedi disgyn ar y gwely, lle y bwriedid iddo ef gysgu. Dywedodd Mr. Williams wrtho yn dawel, "Wel, frawd, dyma lle y buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Yr oedd ei sylwadau ar ddaioni Duw yn y waredigaeth a roddwyd iddynt, yn gyfryw nas gellid byth eu hanghofio. Dywedai, "gallai fod rhywbeth eto i ni i'w wneud ar ol arbediad fel hyn, y mae yn anogaeth i ni i fod yn fwy cysegredig i'r gwaith, We must improve it in a sermon.' Arosodd Mr. Parry gydag ef, hyd nes yr oedd yr addoliad teuluaidd drosodd, ac a defnyddio ei eiriau ef ei hunan" Yr oedd rhywbeth yn hynotach yn ei weddi y pryd hwnw na dim a glywswn erioed;