Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf, i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan àg ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol; eto, mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyf dalm o ddyddiau, braidd na ddychymygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfrydig erioed." Er i'r teulu oll gael eu gwaredu rhag angeu y noson ofnadwy hono; eto, dychrynwyd hwy yn ddirfawr, a bu cyfodi o'u gwelyau ganol nos, a bod o dan fin yr awel oer hyd y boreu, yn achos i Miss Williams, ei ferch henaf, yr hon oedd eisioes yn llesg a gwanaidd iawn, i gael anwyd trwm, yr hwn a brysurodd ei marwolaeth. Effeithiodd yr amgylchiad yn niweidiol ar iechyd dirywiedig Mr. Williams hefyd, ac o hyny hyd derfyn ei yrfa, gwelid yn amlwg mai gwanychu yn raddol yr ydoedd! Ond eto, ymdrechai gyflawni ei weinidogaeth gartref ac oddi—cartref; ac yr oedd yn llwyddo i wneuthur hyny gyda chymeradwyaeth a boddlonrwydd cyffredinol, er mewn gwendid a nychdod mawr. Mewn llythyr o'i eiddo atom, dywed Mr. Edwyn Roberts, pregethwr parchus a chymeradwy yn Ninbych, am Mr. Williams yn y cyfnod hwn, fel y canlyn:—"Gallaf nodi, pan y byddai yn dyfod i Ddinbych i bregethu neu i areithio, y byddai yn hynod o'r poblogaidd yma fel mewn lleoedd eraill, Yr oedd yma hen