Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/335

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wraig gynt o'r enw Bety Jones, yr hon na byddai yn myned i un lle o addoliad, ond ar ddau achlysur yn unig, sef i'r Eglwys Sabbath y Pasg, ac i gapel Lôn Swan y Sabbath y byddai Mr. Williams o'r Wern yno yn pregethu. Erbyn Sabbath y Pasg, rhoddai Bety ei chap allan ar y gwrych i'w sychu a'i wynu, a rhoddai ef allan yn yr un modd erbyn Sabbath Williams o'r Wern. Gofynai Mr. John Griffith, yr hen ddiacon iddi, Bety, beth yw yr achos eich bod yn rhoddi y cap allan?' Yr ateb fyddai, Mr. Williams o'r Wern sydd i fod yn nghapel Lôn Swan y Sabbath.' Tynai bob dosbarth o bobl i'w wrando, a deallid ef yn ymdrin hyd yn nod â phethau mawrion yr efengyl, gan bob gradd o ddynion. Clywais ef yn pregethu ar 'Rwymo Satan,' oddiar Datguddiad xx. I—3. Yr oedd hyny ar noswaith gyntaf ein cyfarfod blynyddol, ac efe yn unig a bregethodd y noswaith hono. Dywedai mai cadwyni i rwymo Satan yw yr Ysgol Sabbathol a'r Gymdeithas Ddirwestol, y rhai ydynt yn cydweithio â'u gilydd i'r amcan hwnw. Pregethodd am awr y noson hono, a sonir am y bregeth yn y dref a'r wlad hyd y dydd heddyw. Bu yma aml i dro yn areithio ar ddirwest, ond saif un ymweliad o'i eiddo gyda'r amcan daionus hwnw, megys ar ei ben ei hun, ac yn fwy hynod na'i ymweliadau eraill. Areithiai y tro hwnw ar ganol y dref y Groes—ac yr oedd mor effeithiol y waith hono, fel yr oedd cedyrn yn wylo