Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hidl, ac nid anghofir ei anerchiad gan neb o'r rhai a'i gwrandawodd." Y mae ambell un yn gawr yn yr areithfa ond yn blentyn eiddil a hollol amddifad o allu i drafod amgylchiadau dyrys mewn eglwys, ond yr oedd Mr. Williams yn gryf ac yn fedrus yn y naill gylch fel y llall. Cymerai ambell ddygwyddiad le yn ei absenoldeb, ag y methai y brodyr ei ddwyn i ben yn foddhaol. Bu amgylchiad felly unwaith o dan ei sylw, yr hwn a achoswyd drwy waith un o aelodau eglwys y Tabernacl yn cario mainc ar ei ysgwydd o'r naill le i'r llall, yr hyn nad oedd yn gyfreithlawn iddo i wneuthur, a hyny oblegid ei fod ar y pryd yn derbyn cynorthwy o Gymdeithas Cleifion yn y dref, ac yr oedd cyflawni unrhyw orchwyl pan yn derbyn o'i chyllid, yn groes i reolau y gyfryw gymdeithas. Dygwyd y mater i'r eglwys, a chynaliwyd llawer o gyfarfodydd yn nglŷn âg ef. Methai y diaconiaid a'r brodyr oll ei derfynu gyda dim boddlonrwydd. Cyrhaeddodd Mr. Williams adref, a gosodwyd helynt "cario y fainc" o'i flaen, gan erfyn arno alw sylw yr eglwys at y mater. "O'r goreu," meddai yntau, ac felly y bu. "Dywedwch yr achos," meddai wrthynt. Yna hwythau a ddechreuasent fyned dros yr helynt yn fanwl a helaeth iawn, a bu yno lawer o siarad hollol ddifudd. O'r diwedd, gofynodd Mr. Williams iddynt, a hyny yn dawel, ac mewn ffordd awgrymiadol nodedig, "A fedrwn ni ddim codi ein traed