Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/337

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach dros y fainc?" Yn y fan terfynodd y cwbl, a phawb yn teimlo yn ofidus am ddarfod iddynt ymdroi cymaint gyda mater mor ddibwys a "chario mainc," a theimlasent hefyd mai gwerthfawr oedd meddu gweinidog oedd yn gallu gwneuthur yr ystorm yn dawel. Gobeithiai cyfeillion niferus Mr. Williams, y buasai gwanwyn a haf y flwyddyn 1839, yn profi yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl Elizabeth, ond twyllodrus a siomedig y profodd y gobaith hwnw o'r eiddynt, oblegid yr oedd yn amlwg erbyn hyny fod afiechyd Miss Williams yn buddugoliaethu arni yn gyflym, a hithau yn cilio ymaith fel cysgod. Yr oedd ei ferch hon erbyn hyn, o ran oedran a medr, yn hollol gymhwys i arolygu amgylchiadau ei dŷ, ac yr oedd mor gyfoethog o rinweddau Cristionogol, y rhai a lewyrchent yn brydferth yn ei bywyd, fel yr oedd yn rhaid mai gofid dwys iddo ef ydoedd gweled arwyddion fod ei phabell ar gael ei thynu i lawr. Er hyny, ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw, a phrofodd yn helaeth iawn o'r dedwyddwch hwnw, sydd yn unig yn eiddo i'r rhai hyny sydd yn ddyoddefgar mewn cystudd, ac yn dyfalbarhau mewn gweddi. Wrth gyflwyno ei ferch i'r Arglwydd mewn gweddi, mynych y dywedai "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymer hi, a chymer dy ffordd gyda hi."