Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawenheir fy nghalon wrth glywed am yr adfywiad crefyddol sydd yn eich plith. Y mae rhagor i'w gael, ond rhaid i chwi weddio mwy.

 
 Ydwyf,
 Yr eiddoch, &c.,
 W. WILLIAMS.

18, Boundary Street.

Cynyddu yr oedd peswch Mr. Williams hefyd, ond gallodd barhau i bregethu gartref, ac oddi-cartref hefyd yn achlysurol hyd ddiwedd haf 1839. Yr ydym yn ei gael ar y dyddiau Llun a Mawrth, Mehefin 17eg a'r 18fed, 1839, yn pregethu yn agoriad capel newydd Rhosllanerchrugog. oedd y diwrnod hwnw iddo ef yn ddydd llawn o adgofion, yn gystal a bod yn ddydd o lawenydd mawr iddo, wrth weled yr eglwys a gychwynodd mewn ystafell yn y Pant, yr hon nad oedd ar y cyntaf ond saith mewn rhif, yn awr yn cael gweled dydd agoriad ei hail gapel eang a hardd, yr hwn a lanwyd yn fuan gan gynulleidfa barchus. Gan y gwyddid yn mhell ac yn agos am waeledd Mr. Williams, ofnid nas gallai bregethu yn Nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon oedd i'w chynal yn Bethesda, ar y dyddiau Awst 7fed a'r 8fed, 1839, ond gallodd fyned i'r gymanfa hono, a phregethodd yn effeithiol ar "Etholedigaeth a gwrthodedigaeth, oddiar y geiriau Eph. i. 1—4, a Jer. vi. 30. Y mae genym yr hyfrydwch o ddodi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch D. Griffith, gynt o Ddol-