Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/340

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellau. Yr oedd ef yn bresenol yn y gymanfa hono:—

"Yn ol eich cais, yr wyf yn anfon i chwi hyny o 'adgofion' ag sydd genyf am yr anfarwol Williams o'r Wern. Chwi ddeallwch mai adgofion bachgen ydynt, oblegid nid oeddwn nemawr dros bymtheg mlwydd oed pan y bu farw Mr. Williams. Er hyny y maent yn ffyddlawn a chywir. Y mae yn fy meddwl syniad byw o'r hyn ydoedd o ran ei berson, ei wedd, ei lais, a'i boblogrwydd anarferol, yr hwn syniad a gefais yn ystod ei ymweliadau â Sir Gaernarfon o fewn y ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Yr wyf yn meddwl mai yn nechreu haf y flwyddyn 1838, y mwynheais y cyfle cyntaf i'w weled. Y waith hono fe'm danfonwyd gyda phony hyfryd a llonydd oedd genym i Gaernarfon ar foreu dydd gwaith tesog a thawel i'w gyrchu i Bethel; lle yr oedd i bregethu y boreu hwnw. Yn fuan ar ol gadael y dref tarawsom ar wr ffraeth, yr hwn a ddaliai gydymddyddan hyfryd â Mr. Williams dros ran fawr o'r ffordd; yn cydgerdded â ni hefyd yr oedd bachgenyn yn dwyn ar ei fraich biser gwag, fel pe ar fedr myned i geisio llaeth i un o'r ffermydd cyfagos. Gan i'r pony yn swn yr ymddyddan, a hithau yn deg hyfryd, ymollwng i dipyn o ddifrawder, ebe Mr. Williams wrth y bachgen, yn yr olwg ar wialen a welai ar ochr y ffordd: Machgen i, a weli di yn dda godi y wialen yna i mi. Efallai y bydd yn rhywbeth genyt allu dweyd rywbryd i ti