Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/341

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith gael cyfle i roi gwialen yn llaw un a adwaenid gan rai wrth yr enw Williams o'r Wern.' Ufuddhaodd y bachgen ar unwaith, ac ymddangosai fel yn falch o'r anrhydedd a roid arno. Am bregeth Mr. Williams yn Bethel, nid wyf yn cofio dim. Yr oedd yno dorf luosog yn gwrando, wrth reswm, a phawb yn clustfeinio fel am eu bywyd. Ar ol y bregeth cynelid cyfeillach, ond aethum i, ac un o weision fy rhieni, tua'r fynwent i ddal a chyfrwyo y pony i fod at wasanaeth Mr. Williams yn mhellach. Y peth cyntaf wyf yn gofio wedi hyn oedd gweled dwy neu dair o wragedd cyfrifol ar ol dyfod o'r capel, yn troi eu hwynebau tua'r pared, ac yn wylo yn hidl, gyda napcynau yn eu dwylaw i sychu ymaith eu dagrau, ac yna gwelwn amryw o'r aelodau hynaf yn ymwasgu o'u deutu i ysgwyd dwylaw yn gynhes, ac i'w llongyfarch ar eu gwaith yn tori drwodd i wneud arddeliad cyhoeddus o'r Gwaredwr. Golygfa hynod ydoedd, ac y mae fel yn fyw o flaen fy llygaid y funyd hon. Gan farnu y gwasanaeth wrth yr effeithiau, rhaid ei fod yn fendigedig iawn. Dro arall (ond pa un ai yn ystod yr un flwyddyn, ynte yr un agosaf ati, nid wyf yn sicr), ymddiriedid i mi fyned a'r gig i'w gyrchu o Gaernarfon i Borth Dinorwig, neu y Felin Heli, fel yr arferid galw y lle y pryd hwnw, yr oedd efe i areithio ar Ddirwest y noswaith hono yn nghapel Siloh. Nid oeddwn yn bresenol i'w glywed, yn gymaint a bod yn rhaid i mi fyned