Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/342

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r cerbyd yn ol cyn dechreu y gwasanaeth; ond yr oedd yno gynulliad llawn, a siarad i bwrpas hefyd, yn ol fel y dywedwyd wrthyf lawer gwaith ar ol hyny. Clywais fy mam fwy nag unwaith yn adrodd darnau o anerchiad Mr. Williams y noson hono. Dywedai fod witch yn y ddiod, a gofynai, Pwy erioed a welwyd yn myned at y pot llaeth, gan eistedd i lawr i lymeitian am oriau; na, gyda'r ddiod feddwol y bydd pobl yn ymddwyn yn afresymol felly.' Yr oedd ei eiriau a'i wedd yn ddifrifol iawn pan y troai i siarad ar y pwys o fod rhieni yn rhoddi esiamplau teilwng i'w plant yn yr achos yma. 'Llawer tad,' ebe fe, 'a welwyd yn dal i ymarfer â'r diodydd meddwol, ac eto, drwy rym penderfyniad cryf yn gallu cadw yn hynod dda ar dir cymedroldeb drwy ei fywyd. Cerddai gydag ymylon perygl (meddai, gan symud ei fys yn araf gydag ymyl allanol astell y pulpud) heb i unrhyw drychineb mawr ddygwydd. Ond dacw ei fab yn myn'd ar ei ol, gan feddwl gwneud yn union yr un fath, eithr cyn cyrhaedd hyd haner ei yrfa, wele ef, druan, yn syrthio dros y dibyn i ddystryw.' Yr oedd yr effaith wrth gwrs yn drydanol. Mor glir a boneddigaidd yr ymresymai Mr. Williams y noson hono, fel yr enillodd lawer i benderfynu bod yn llwyrymwrthodwyr o hyny allan. Fel yr awgrymais, nid oeddwn yn bresenol i glywed yr araeth fythgofus hono yn Siloh; ac am ei bregeth yn Bethel, er fy mod yno yn mhlith y gwrandawyr,