Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid wyf yn cofio dim yn ei chylch, ond yr effeithiau hynod hyny y cyfeiriais atynt yn barod. Ond am y gymanfa a gynelid yn Bethesda yn haf y flwyddyn 1839, dygwyddai yn dra gwahanol. Yr oeddwn erbyn hyny gryn dipyn yn hynach, a'm meddwl yn dra bywiog i dderbyn argraffiadau oddiwrth yr hyn oll a welwn ac a glywn, yn enwedig ar y fath achlysur nodedig ag ydoedd hwnw. Yn nghwmni fy rhieni, a llawer eraill o'r crefyddwyr goreu yn Bethel, aethum i'r gymanfa hono gydag awyddfryd cryf am gael clywed i bwrpas, amryw o brif weinidogion yr enwad Annibynol, heblaw Mr. Williams o'r Wern, yn traddodi eu cenadwri; ond am dano ef y meddyliwn i, megys eraill, yn uwchaf a phenaf. Teimlid llawer mwy o ddyddordeb yn yr achlysur mae'n ddiau, am fod y si ar led fod Mr. Williams, yn ol pob tebyg, yn mhell yn y darfodedigaeth, ac na cheid ei weled efallai byth eto mewn cymanfa yn Sir Gaernarfon. Efe oedd i bregethu yn olaf ar foreu dydd mawr yr wyl. Cynelid y gymanfa, nid ar faes agored, ond yn y capel, gyda chyfleusdra i'r rhai na allent ddyfod i mewn i glywed y pregethau drwy un o'r ffenestri mawrion oeddynt yn nghefn yr adeilad. Yr oedd y capel hwnw yn dra eang, er nad yn gymaint a'r un presenol. Ni raid dweyd ei fod yn orlawn o wrandawyr y boreu hwnw, gyda thyrfa fawr oddi-allan hefyd. Yr oeddwn yno yn brydlawn, fel ag i sicrhau lle mewn man cyfleus yn y gallery. Yn