Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/344

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymyl y ffenestr y cyfeiriais ati, yr oedd platform wedi ei godi, ac ar hwnw y safai Mr. Williams i draddodi ei bregeth anghymharol ar Etholedig aeth a gwrthodedigaeth. Llawer gwaith y buasai efe yn pregethu yn y capel hwnw o'r blaen, a phob amser gyda grym a deheurwydd mawr. Clywais Tegai yn dweyd iddo ei glywed yno yn pregethu ryw noswaith ganol yr wythnos ar Fawredd Duw, mewn ffordd mor hynod, fel ag i fod yn anefelychadwy. Mewn dull rhwydd a didrafferth, arllwysai allan y fath ffrydlif o syniadau gwreiddiol ac ardderchog ar y pwnc, nes synu a chyffroi hyd yr eithaf, y dorf anferth a ddaethai yn nghyd i'w wrando. Yr oedd golwg wir ryfedd arno, meddai ef, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gwrandawyr a'u safnau yn llydain agored, fel pe yn awyddus i lyncu pob gair a ddeilliai dros wefusau y llefarwr hyawdl. Ond yn awr, dyma ei dro olaf ef i ymddangos yn Bethesda wedi dyfod. Edrychai yn welw a churiedig ei wedd. Diau fod y darlun a welir yn ei Gofiant (gan Dr. W. Rees) yn bortreiad hynod dda o hono y pryd hwnw. [1] Y fath ddystawrwydd a deyrnasai drwy y lle pan y cododd ar ei draed i bregethu. Er yn dwyn olion nychdod, yr oedd eto yn wir fawreddog yr olwg arno. Ei lais ydoedd glir, ei barabliad yn ystwyth, ei drem yn urddasol, a'i holl ystum yn hardd ac yn naturiol

  1. Gwel ail ddarlun Mr. Williams yn nechreu y gyfrol hon.