Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/345

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros ben. Ei lygaid oeddynt fawrion, a hynod ddysglaer gan dân athrylith. Edrychai yn myw llygad y gynulleidfa, gan lefaru fel meistr hollol arno ei hun, ac ar ei waith, ac arni hithau hefyd. Rhyw wrandawr go hynod fuasai hwnw, a allasai ddal yn ddigyffro dan dywyniadau tanbaid y golygon hyny. Nid oedd eisieu iddo ef floeddio mewn trefn i fod yn effeithiol. Yr oedd rhyw thrill yn ei lais âg oedd yn gorchfygu pob teimlad. Yn ei swn, mynych yr elai pobl i wylo yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Felly yr oedd yn Nghymanfa Bethesda yn pregethu ar Etholedigaeth. Yr oedd y lle yn Bochim mewn gwirionedd. Ni welais y fath wylo mewn cymanfa erioed. Diau i lawer deimlo yn rhyfedd pan ddarllenodd ei destun, y naill yn Eph. i. 4, 'Megys yr etholodd efe ni,' &c.; a'r llall yn Jer. vi. 30, Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt,' &c. Yr oedd y bregeth ar gynllun cwbl newydd, ac o duedd ymarferol ardderchog. Yr wyf yn cofio fel y dywedai yn ei ragymadrodd y byddai yn arferiad gan yr hen dduwinyddion bregethu llawer ar y pynciau hyn, Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ond fod duwinyddion diweddar fel rheol yn eu hosgoi, gan feddwl fod tuedd niweidiol mewn pregethu o'r fath. Tarddai hyn, fel yr oedd yn amlwg iddo ef, am y rheswm eu bod yn pregethu yr athrawiaethau hyn mewn golygddysg, neu yn eu theory, yn hytrach nag yn yr amlygiad o honynt yn nghwrs naturiol