Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/346

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dygwyddiadau. Y mae theory etholedigaeth, er enghraifft, yn amlwg i Dduw, ond yn ei gwaith y mae yn ei dangos i ni. Yr wyf yn cofio y cyfeiriad hapus a wnaeth at Bont Menai yn ei gwaith, fel rhagarweiniad i'r sylwadau oedd ganddo i'w traethu yn nghylch etholedigaeth gras. Da y cofiwyf hefyd am rai o'r amgylchiadau a ddygai ef i sylw er dangos etholedigaeth yn ei gwaith. Y cyntaf yn eu plith oedd 'amgylchiad boneddiges urddasol, yr hon a fwynhai gyflawnder o olud y byd, yn nghyd a'r holl lawenydd cysylltiedig â chwmnïau uchel, balls, races, &c., ond daeth Duw heibio iddi yn ei Ragluniaeth, cipiodd ddau o'r plant y naill ar ol y llall. Teimlodd yn drwm y tro cyntaf, ond yn drymach fyth yr ail dro. O'r diwedd collodd ei phriod, a thrwy hyny lawer o'i meddianau; symudodd i gylch llai. Yn ymyl ei phreswylfod newydd yr oedd capel, clywodd y Gair, daeth yn Gristion, a bu farw yn yr Arglwydd.' Dyna 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Yr amgylchiad nesaf y cyfeiriai ato oedd eiddo bachgen afradlon, yr hwn oedd ganddo fam dduwiol a weddiai lawer drosto. Pryderai yn ei gylch nes i'w nerth ddechreu pallu yn gynar, gwisgai wydrau cyn bod yn 40 oed, crwydrai yntau yn ddifeddwl o le i le. Clywodd ei fam o'r diwedd ei fod yn aros mewn rhyw fan neillduol, ac anfonodd at weinidog oedd yn llafurio yn y lle, gan ddeisyf arno weddio yn gyhoeddus dros ei mab oedd yn anwyl ganddi, er