Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/347

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn afradlon. Tra yn gweddio dygwyddodd y bachgen droi i mewn; effeithiwyd arno, meddyliodd mai efe oedd y truan y gweddiid drosto. Aeth at y gweinidog ar ddiwedd y gwasanaeth, gwelodd lythyr ei fam, toddodd ei galon, a bu farw yn ddedwydd yn mhen amser ar ol hyn. I'r cwestiwn, Beth oedd hyn? Dyma ateb y pregethwr, 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Fel yr adroddai Mr. Williams yr hanesyn hwn, yr wyf yn cofio fod golwg hynod o ddrylliog ar y gynulleidfa. Wedi crybwyll am ddau amgylchiad nodedig arall, er egluro ei fater, aeth rhagddo i dynu pump neu chwech o addysgiadau, y rhai oll a ymddangosent yn gwbl deg a naturiol. Gyda'r mater arall, dilynai yr un cynllun yn hollol, gan gario argyhoeddiad i bob meddwl ystyriol, mai peth ofnadwy i ddynion o wlad yr efengyl fyddai cael eu cyfrif yn arian gwrthodedig yn y diwedd, ac na fyddai ganddynt neb i'w beio ond hwy eu hunain, os mai felly y dygwyddai. Wedi i'r gymanfa fyned drosodd, yr oedd cryn son am bregethau Rees o Ddinbych,' ac eraill a weinyddent ynddi, ond am bregeth ogoneddus Williams o'r Wern y meddylid ac y siaredid yn benaf ar hyd a lled y wlad. Bu ei thraddodiad o annhraethol les i ganoedd yn y parthau hyny, a chlywais luaws o bobl grefyddol yma a thraw yn adrodd darnau o honi gyda boddhad yn mhen blynyddoedd lawer wedi i'r pregethwr enwog ddisgyn i fro dystawrwydd."