Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/348

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn hanes Hen Gymanfaoedd gan Mr. W. J. Parry, C.C., Bethesda, yn y Dysgedydd 1887, tudalen 147, gwelwn mai "Yn nglŷn â'r gymanfa hon y darfu i swyddogion y chwarel roddi gorchymyn allan nad oedd caniatad i neb golli ei waith i fyned iddi, a chreodd hyny gynhwrf anghyffredin yn y wlad. Cof genyf glywed adrodd rhai hen bererinion yn hysbysu swyddogion y chwarel, 'Pe byddent heb waith byth, y mynent gael y gymanfa.' Ond yr oedd yn y wlad y pryd hwnw, fel yn awr, luaws yn cloffi rhwng dau feddwl—meddwl y swyddogion, a meddwl eu cydwybod—eu hegwyddorion. Ond cyn bod oedfa'r boreu bron wedi dechreu, yr oedd gan y gymanfa a Williams o'r Wern ynddi, ormod at—dyniad iddynt, fel y torwyd ar draws pob gorchymyn, a dylifwyd yn dyrfaoedd o'r chwarel i gae y gymanfa. Ni feiddiwyd cosbi chwaith am hyny. Yr oedd y dòn yn rhy gref, a chorff y gweithwyr yn rhy unol i'r swyddog feiddio gwneud hyny.' Gwelsom mai Llanbedr, Sir Gaernarfon a gafodd y fraint o glywed llais Mr. Williams gyntaf mewn cymanfa ar ol ei ordeinio, ac yn y sir hono hefyd, yn Bethesda, y waith uchod y gwrandawyd ei lais am y tro olaf yn nghymanfaoedd ei wlad, canys yr uchod ydoedd y gymanfa olaf iddo ef bregethu ynddi. Cymerodd un amgylchiad le yn Mangor ar ddychweliad ein gwrthddrych o Gymanfa Bethesda, ag sydd yn werth ei gofnodi yma." Adroddwyd yr