Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanesyn gan Dr. W. Rees i Mr. W. J. Parry, Bethesda, a rhoddwn ef yma, fel yr adroddodd Mr. Parry ef wrthym ninau:—" Bu arian a gasglwyd at ddiddyledu addoldai yr Annibynwyr yn 1833—1834, yn y rhaniad a fu arnynt yn Bethel, yn achlysur i oeri ychydig ar deimladau Dr. Arthur Jones a Mr. Williams at eu gilydd, yn arbenig felly deimladau y blaenaf at yr olaf. Ni ddeallasom ni fod Mr. Williams yn fwy cyfrifol am yr hyn a wnaed yn y rhaniad, na rhyw rai eraill oeddynt yn cydweithredu yn y mater. Fodd bynag, nid oedd teimladau felly rhwng dau hen wron ardderchog o'u bath hwy, mewn un modd, yn hyfryd, ond yn beth anhyfryd iawn. Fel y crybwyllwyd, yr oedd Mr. Williams yn hynod o wael Wedi i'r oedfa ddau yn Nghymanfa Bethesda. fyned drosodd, aeth ef, Dr. W. Rees, a'r Parch. D. Davies, Aberteifi, gyda'u gilydd i Fangor, canys yr oedd y ddau olaf i bregethu yn Ebenezer Cyn myned i'r capel, gofynodd Dr. Rees i Mr. Williams, a oedd ef am ddyfod i'r oedfa? Na,' meddai yntau, Yr wyf fi yn rhy wael i ddyfod heno, ac heblaw hyny, pe bawn yn d'od, hwyrach mai dweyd rhywbeth yn gas wrthyf a wnai Mr. Arthur Jones, ac yr wyf fi yn rhy lesg a gwan i allu dal dim o nodwedd felly heno.' oedd Dr. Rees yntau, yn awyddus iawn i ddwyn y ddau dywysog at eu gilydd, a gofynodd, 'Wel, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn i ni