Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/350

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adael y dref?' 'Buaswn, ond y mae arnaf ofn mai dweyd rhywbeth yn arw wrthyf a wna efe,' meddai yntau eilwaith. Barnasent o'r diwedd mai gwell oedd i Mr. Williams aros yn y ty y noson hono, yn enwedig wrth gymeryd sefyllfa ei iechyd i ystyriaeth, ac felly y bu. Aeth Dr. Rees i'r capel, ac wedi i'r cyfarfod derfynu, aeth i dŷ Dr. Arthur Jones, a chyn ymadael, dywedodd wrtho, 'Y mae Mr. Williams o'r Wern yn y dref yma, ac y mae yn wael iawn hefyd.' 'Yn mha le y mae o?' gofynai Dr. Jones. 'Yn y London House, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn iddo adael y dref?' 'Wn i ddim wir.' 'Wel, y mae ef yn wael iawn, ac y mae bron yn sicr ei fod yma am y tro diweddaf, ac os na chewch chwi ei weled y tro hwn, y mae yn fwy na thebyg, na bydd i chwi byth gael ei weled, a byddai yn drueni i ddau wron fel chwi beidio a chymodi a'ch gilydd.' 'A yw efe yn wael felly?' 'Ydyw yn sicr.' 'Pa bryd y byddwch chwi yn gadael y dref?' 'Boreu yfory gyda'r steamer.' "Wel, dywed wrtho, os hoffai efe gael fy ngweled i, am iddo ddyfod yma yfory cyn myned ymaith—deuwch eich dau.' Yn llawen iawn gan hyny, yr ymadawodd Dr. Rees y noson hono i fyned at Mr. Williams i'r London House. Pan yr oeddynt eu dau yn ymneillduo i orphwyso, awgrymodd Dr. Rees i Mr. Williams y priodoldeb iddynt alw gyda Dr. Jones, cyn iddynt adael y dref dranoeth, ac ychwanegodd,