Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/351

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn sicr y buasai yn dda ganddo ei weled. 'Tybed y buasai yn hoffi fy ngweled; a baid ef a bod yn chwerw wrthyf, y mae arnaf ofn iddo lefaru gair croes, oblegid nis gallaf ddal hyny yn awr.' Na, ni wnaiff ef ddweyd dim yn gâs wrthych, gadewch y mater hwnw arnaf fi.' Boreu dranoeth a wawriodd, ac wedi boreubryd, ac i'r ddyledswydd deuluaidd fyned drosodd, dacw Mr. Williams a Dr. Rees yn cychwyn eu dau am dŷ Dr. Arthur Jones. Edryched y darllenydd arnynt yn cerdded yn araf i fyny High Street; dacw hwy wedi troi o'r golwg i'r entry gul sydd yn arwain at Ebenezer, ac at dŷ yr hen ddoethawr. Pwy oedd yn eu dysgwyl ac yn edrych yn bryderus am danynt drwy y ffenestr, ond yr hen wron Dr. Jones ei hun, a phan y gwelodd hwynt yn dyfod, rhedodd i agor y drws, ac i'w derbyn yn groesawgar nodedig drwy ymaflyd yn llaw Mr. Williams, gan ei gwasgu yn dŷn a chynhes. Edrychai y ddau yn myw llygaid eu gilydd am foment yn y drws, heb allu o honynt, o herwydd eu teimladau drylliog, lefaru gair y naill wrth y llall, ac yn nwylaw eu gilydd y darfu iddynt ymlusgo o'r drws at y tân ac wedi erfyn maddeuant y naill y llall, a chael sicrwydd fod hyny wedi ei sicrhau, eisteddasant un o bob ochr i'r tân, ac wylai y ddau yn hidl. Safai Dr. Rees yntau, rhwng y ddau yn edrych arnynt, ac ni allai am enyd lefaru gair, gan yr effaith orthrechol a gariodd yr olygfa hono arno. Hoff-