Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/352

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asem yn fawr weled darlun o'r amgylchiad uchod mewn mynor neu ar len. Wedi bod yn y ty am beth amser, dywedodd Dr. Rees fod yn rhaid iddynt fyned, gan fod yr agerfad i gychwyn yn fuan. Ar hyny, dywedodd Dr. Arthur Jones, 'Myfi a ddeuaf gyda chwi i'ch hebrwng i gwr pellaf y traeth;' ac ymaith a hwy yn mreichiau eu gilydd i 'gwr pellaf y traeth,' ac felly yr ymadawodd Mr. Williams â Bangor y tro olaf hwnw am byth iddo ef, a'r oerfelgarwch a fuasai rhyngddo â'i hen gyfaill, wedi toddi a llifo ymaith yn eu dagrau maddeuol. Nis gwyddom a welsant hwy eu gilydd ar ol hyny, cyn iddynt gyfarfod yn y wlad well. Ond yr ydym yn sicr fod yr hwn a fu yn hau, a'r rhai oedd yn medi, erbyn hyn yn llawenychu yn nghyd yn nhy eu Tad am y cyfarfyddiad hwnw yn Mangor, yr hwn a ddygwyd oddiamgylch drwy offerynoliaeth Dr. William Rees."