Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/353

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIV.

O GYMANFA BETHESDA HYD EI FARWOLAETH.—1839—1840.

Y CYNWYSIAD.—Y meddyg yn ei gynghori i adael Liverpool— Datod ei gysylltiad ág eglwys y Tabernacl—Ei lafur a'i lwyddiant yn Liverpool, gan y Parch. Thomas Pierce—Eglwys y Wern a'r Rhos yn ei wahodd i ail ymsefydlu yn eu plith—Terfynu ei weinidogaeth yn Liverpool—Eglwys y Tabernacl yn teimlo yn ddwys o herwydd ei ymadawiad—Yn ail ddechreu yn hen faes ei lafur—Diwygiad yn yr eglwysi—Cyfarfod pregethu hynod yn y Wern—Ei anwyl Elizabeth yn gwanychu—Y tad a'r ferch wedi eu caethiwo yn eu gorweddfanau—Y ddau yn ymddyddan â'u gilydd am y nefoedd Cyfarfod pregethu effeithiol yn y Rhos—Y Parchn. W. Rees, Dinbych; R. Jones, Rhuthyn; W. Griffith, Caergybi; a Joseph Jones, Ysw., Liverpool, yn talu ymweliad â Mr. William—Yr olygfa pan oeddynt yn ymadael yn un wir effeithiol Dr. Chidlaw yn ymweled â Mr. William—Marwolaeth Miss Williams—Yntau yn gwaelu yn gyflym wedi ei cholli hi—Ymweliad ei chwaer âg ef—Achos eneidiau—Galw ato swyddogion yr eglwysi—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Breuddwyd hynod o eiddo y Parch. Moses Ellis—Marwolaeth Mr. James Williams, mab hynaf ein gwrthddrych—Ei fab a'i ferch ieuengaf yn ymfudo i Awstralia—Llythyr oddiwrth unig fab ein gwrthddrych.