Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/354

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AR ol dychweliad Mr. Williams adref o Gymanfa Bethesda, gwelid yn amlwg fod yr arwyddion am ei wellhad ef a'i anwyl Elizabeth, yn diflanu mor gyflym, fel y barnodd eu meddyg galluog, Dr. Thomas, Blackburn, mai ei ddyledswydd ef oedd hysbysu Mr. Williams, fod yn rhaid iddo adael y dref yn fuan, a dychwelyd yn ol i Gymru, yn amgen nad oedd un pelydryn o obaith am ei wellhad ef na Miss Williams. Yr oedd ufuddhau i'r gorchymyn hwnw yn anhawdd, oblegid yr oedd hyny yn golygu datod y cysylltiad anwyl oedd rhyngddo ef â'r eglwys yn y Tabernacl, yr hwn, mewn anwyldeb o'r ddeutu a gynyddai yn barhaus, ac nid rhyfedd hyny, canys fel hyn yr ysgrifenodd y Parch. Thomas Pierce, i gofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 34—36, am nodwedd gweinidogaeth lwyddianus ein gwrthddrych yn Liverpool:—"Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynulleidfaoedd yn rhyfeddol, ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, eto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragwyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau, teimladau lluaws o'r rhai sydd yn gynhes iawn at ei enw, ac a barchant ôl ei draed mewn diolchgarwch i'r Arglwydd am ei anfon yma, a chael eistedd dan ei weinidogaeth.