Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/355

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni ddangosodd yn ei weinidogaeth gyhoeddus ond ychydig o'r hyawdledd a'r tanbeidrwydd a'i hynodent flynyddau yn ol, eto, yr oedd y fath nerth yn ei eiriau, awdurdod yn ei ymresymiadau, a'r fath blethiad o ddifrifoldeb a mwyneidd-dra yn ei ysbryd, fel y byddai yn sicr o gael gafael yn meddwl yr holl gynulleidfa. Nid boddloni cywreinrwydd, na goglais tymherau dynion, a amcanai efe, ond cael gafael ddifrifol yn eu teimladau a'u cydwybodau oedd ei unig ymgais; a braidd bob amser y llwyddai yn hyny. Nid anfynych y gwelid y dagrau tryloewon yn treiglo dros ruddiau hyd yn nod y rhai caletaf yn y gynulleidfa. Bu yn foddion i ddwyn yr eglwys dan ei ofal i wisgo ei blodeu yn fuan, a blodeuo yn fwy-fwy yr oedd tra y bu aros gyda ni; a dilys y gellir dweyd heb betruso, mai ffrwythau toreithiog dilynol i'r blodeu hyny oedd y diwygiad nerthol a fu yma yn fuan ar ol ei ymadawiad, ac y mae yr eglwys hyd heddyw yn parhau i fod yn llawen fam plant, ac arwyddion o foddlonrwydd Ior ar ei hymdrechiadau. Yr oedd Mr. Williams yn llawn o ysbryd yr hen ddiwygwyr; gwrthsafai bob math o gadwynau gorthrwm, yn wladol a chrefyddol. Gwyddom yn dda fod llawer o'r ysbryd hwn ynddo trwy ei oes, ond wedi dyfod yma bu yn ddiwygiwr mwy cyflawn nag erioed; torodd drwy a thros yr hen ffurfioldeb a'r gwastadrwydd oeddynt fel cadwynau yn llyffetheirio crefydd yn yr eglwysi. Dangosai y mawr bwys a'r angen-