Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/356

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rheidrwydd o fod pob aelod yn yr eglwys wrth ei waith—chwiorydd yn gystal a brodyr; torodd waith i bawb, a bu yn foddion i raddau helaeth i godi pawb at ei waith. Nid oedd ef yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i'r pulpud yn unig, ond yr oedd ei holl fywyd yn pregethu, ac megys yn gysegredig at lesâu dynion yn mhob man: tanbeidiai Cristionogaeth yn ei holl gyfeillachau; seiniai gras yn ei eiriau, a phelydrai efengyl yn ei wedd. Yr oedd ei fywyd santaidd, a'i ysbryd hynaws, yn enill iddo barch a chariad oddiwrth y rhai mwyaf anystyriol, ac effeithiodd trwy ei ymddyddanion personol er llesâd tragwyddol i lawer o eneidiau. Sefydlodd a chefnogodd amrywiol o gymdeithasau daionus, y rhai sydd eto yn flodeuog a llwyddianus yn ein plith; a thra y byddo y rhai hyn ar draed, byddant yn ddysglaer gof-golofnau o lafur, ymdrech, a doethineb yr Hybarch Mr. Williams. Mynych goffheir ei enw gyda theimladau hiraethlon yn Nghymdeithas y Mamau hyd heddyw, yr hon gymdeithas a sefydlodd ac a bleidiodd efe; yr hon hefyd sydd wedi bod o fendith fawr, ac sydd hefyd a'i heffeithiau daionus yn amlwg mewn llawer o deuluoedd. Felly, nid yn unig y mae ei ôl ef ar yr eglwysi, ond hefyd yn nhai ac aneddau ugeiniau o Gymry Llynlleifiad. Sefydlodd hefyd Gymdeithas y Merched leuainc, yr hon sydd eto yn parhau yn flodeuog, gweithgar, a defnyddiol iawn. Anogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb,