Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/357

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi. Efe a sefydlodd hefyd Gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodeu y cynulleidfaoedd. Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, eto yn foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er enill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd; a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair nid oes un sefydliad, na changhen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bob peth y rhoddai ei law arno. Mae eangder a chysondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabydd-