Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/358

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

us, fel nad oes eisieu i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn. Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt." Pwy a all amgyffred yn gywir y golled a gafodd eglwys y Tabernacl yn ymadawiad y fath weinidog ag ydoedd Mr. Williams iddi, yn ol y portread a roddir i ni o hono gan Mr. Pierce? Yn sicr, anafus nodedig oedd yr ysigdod, a dolurus iawn ydoedd yr archoll, y gorfodwyd yr eglwys a'r gynulleidfa i'w dyoddef yn ei ymadawiad oddiwrthynt. Er na bu yn wiw gan eglwysi y Wern a'r Rhos geisio gan Mr. Williams i aros gyda hwy, pan dderbyniodd efe yr alwad o Liverpool, eto pan ddeallasant am ei fwriad i ddyfod yn ol i Gymru, gan eu bod heb weinidog er ei ymadawiad oddi wrthynt, darfu iddynt, a hyny er eu bythol anrhydedd, anfon gwahoddiad unol a charedig iddo i ddychwelyd yn ol atynt hwy, y rhai oeddynt eisioes wedi cyfranogi yn helaeth o hufen ei weinidogaeth faethlawn yn mlynyddoedd mwyaf grymus a nerthol ei fywyd defnyddiol. Derbyniodd yntau eu gwahoddiad yn ebrwydd a siriol. Terfynodd ei weinid-