Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/359

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ogaeth yn Liverpool nos Sabbath, Hydref 20fed, 1839, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol i dyrfa fawr a galarus. Ei destun oedd Ephes. iv. 10—13, "Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawn—ai bob peth; ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth. mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Rhoddwn yma y crynodeb byr a ganlyn o'r bregeth hono, fel y mae yn Nghofiant Mr. Williams gan Dr. W. Rees, tudalen 45— "I. Sefyllfa bresenol yr Eglwys:—Y mae mewn cyflwr o wasgariad. 1. Mae yn wasgaredig iawn mewn ystyr Ddaearyddol (Geographical), a rhaid iddi fod felly tra yn y byd hwn. Y mae y saint yn wasgaredig ar hyd wyneb y ddaear, ychydig yma, ac ychydig acw.

2. Mewn ystyr Ragluniaethol. Mae llawer yn gorfod gadael y cyfeillion crefyddol yr unasant gyntaf â hwy, a myned i blith dyeithriaid. Mae mawr wahaniaeth yn amgylchiadau bydol y naill a'r llall o honynt.

3. Mewn ystyr Sectaraidd. Mae y gwahaniad hwn yn llawer mwy nag y dylai fod. II. Sefyllfa bresenol Crist, "Goruwch yr holl nefoedd." Y mae yn y sefyllfa fwyaf manteisiol