Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dystawrwydd; dyma y lle i'w deimlo yn effeithiol. Gallai mai Cwmhesgen[1] yw yr enw priodol, oblegid mae yr amgylchoedd yn gyfoethog o gyrs a brwyn; ac y mae yn rhaid troi yr afonydd yn mhell, ac i'r ffrydiau sychu, cyn y torir ymaith bob corsen a hesgen o'r fangre hon; neu fe ddichon mai Cwmiesin yw yr ystyr gywiraf, yr hyn o'i aralleirio yw-Cwm Cain, Cwm arddunol, Cwm hardd. Yn sicr, felly y mae, fel y dywed Thomas Pennant, yr hanesydd, am y lle hwn,-"Y mae natur wedi bod yn afradus yma mewn prydferthion."

Cymered y darllenydd yr un a fyno o'r ystyron. uchod; ni chawsom ni erioed ein boddloni yn hollol mewn esboniad ar yr enw, ac nid ydym yn gweled rhyw lawer o bwysigrwydd yn hyn, a sillebir ef genym o hyn allan yn Cwmeisian fel ei seinir ar lafar gwlad. Digon at ein pwrpas ni yn y gwaith hwn, yw gwybod hyd sicrwydd, mai yma y ganwyd, ac mai oddi yma y cychwynodd y Parchedig William Williams o'r Wern, allan i fendithio y byd. Y mae pob peth yn amgylchoedd ei gartref genedigol, yn fanteisiol i berchenogion athrylith a thalent er eu dadblygu. Y golygfeydd ydynt ramantus, mawreddus, arddunol, prydferth, a swynol odiaeth, gan gynwys mynyddoedd uchel a

chribog, creigiau ysgythrog a daneddog, ceunentydd dyfnion, afonydd gloewon, coedydd mawrion,

  1. Gwel ysgrif y Prifathraw, M. D. Jones, Bala, yn y Cronicl Mawrth, 1877.