Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac amrywiol lawer iawn, a llanerchau hyfryd nodedig. Ceir yma deleidion o bob amrywiaeth dymunol i'r llygaid i edrych arnynt, a digon o waith i syllu ar, a rhyfeddu at ardderchawgrwydd creadigaeth Duw; ac nid yn fuan yr anghofia llawer heblaw Thomas Pennant, yr olygfa a welir drwy y coed, pan y byddo yr haul yn tywynu ar bistylloedd Cain a Mawddach, y rhai ydynt yn wir ardderchog wrth ddisgyn o honynt i'r dyfnder mawr, gan ymddangos yn wynion fel afonydd o laeth. Ie, oddiyma y galwodd yr Arglwydd ei was allan, ac yr arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygaid, gan lewyrchu drwyddo, nes y gwelodd y bobl oleuni mawr yn llewyrch ei weinidogaeth danbaid, nerthol, ac efengylaidd. Ychwanega hyn at nifer y profion lluosog sydd genym eisioes, mai nid o dai brenhinoedd o angenrhaid y mae meibion y daran yn dyfod allan, ac mai nid mewn dillad esmwyth y gwisgwyd y rhai sydd yn parotoi ffordd yr Arglwydd, ond à nerth o'r uchelder.

Yn Eglwys plwyf Trawsfynydd, Ionawr 9fed, 1767, ymunodd William Probert, o Lanfachreth, mewn priodas â Jane Edmund, Dolymynach Isaf, Trawsfynydd. Mab ydoedd ein gwrthddrych parchedig i'r rhieni uchod. Yr oedd William Probert ei dad, yn fab i Robert ac Ellen Williams ei wraig o'r lle a nodwyd. Nis gallwn nodi nemawr i sicrwydd am danynt hwy, ond yn unig