Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarfod iddynt, Tachwedd 14eg, 1734, fyned â'u mab William i'w fedyddio yn Eglwys plwyf Llanfachreth. Yr oedd William Probert yn ddyn tawel a synhwyrol iawn. Arferai wrando llawer ar yr efengyl, ac aeth droion i'r Bala, pellder o bymtheg i ddeunaw milldir o ffordd, i wrando ar y Parch. Daniel Rowlands o Langeitho, ac eraill yn pregethu. Meddai ar ddeall cryf a chyflym, ond ysywaeth, nid ymunodd efe âg un blaid grefyddol mewn proffes, drwy ystod ei holl oes faith. Mynychai yr Eglwys Sefydledig, a byddai yn addoli Duw, drwy gynal addoliad teuluaidd ar ei aelwyd gartref gyda chysondeb diball. Saer coed ydoedd efe o ran ei gelfyddyd, ac hefyd amaethai yn fedrus a diwyd y tyddyn bychan a ddelid ganddo. Gweithiai lawer o bilynau meirch, ac arferai ddywedyd o ran digrifwch diniwed yn ei ffordd dawel ei hun, pe y buasai meirch yr ardal hono yn gallu siarad, mai efe a fuasai yn cael gweithio yr holl bilynau ar eu cyfer, oblegid fod yr eiddo ef yn gorwedd mor esmwyth ar eu cefnau. Disgynai arno hefyd i weithio eirch bron i holl feirwon y cymoedd hyny; ac arferai ei fab enwog o'r Wern, ddywedyd fod ei dad yn arferu gormod gydag eirch, ac yn cynefino cymaint â hwynt, fel yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn "grefyddol iawn." Beth bynag am athroniaeth y sylw, a'r hyn oedd yn angenrheidiol yn ol safon ei fab, mewn trefn i fod yn "grefyddol iawn," rhestrid