Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Probert, yn mysg y dynion moesolaf, doethaf, a manylaf yn yr holl ardaloedd. Gwelodd aml a blin gystuddiau yn ei deulu, a chafodd fyw nes cyrhaedd oedran teg, a chroesi o hono yn mhell dros linell yr addewid, ond bu yntau farw, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Ebrill 22ain, 1822, yn 88 mlwydd oed. Ganwyd Jane Edmund, mam ein harwr, yn y flwyddyn 1741. Merch ydoedd hi i Edmund a Gwen Morgan, Dolymynach Isaf. Saif yr amaethdy uchod, yr hwn erbyn hyn sydd yn adfeiliedig iawn yr olwg arno, ar lan afon Cain, yr hon a ymddolena drwy ddyffryn bychan, ond prydferth a swynol nodedig, ychydig islawi Gapel Penystryd. Ganwyd Edmund Morgan ei thad, yn Moel-y-glo, plwyf Llanfihangel-y-traethau, swydd Feirionydd. Hana Mr. Rowland Edmund, sydd yn cyfaneddu yn awr yn Moel-y-glo o'r un teulu. Ystyrid. Edmund Morgan, y gwr cryfaf o gorffolaeth yn Ngogledd Cymru, os nad yn yr holl dywysogaeth. Adroddir llawer o bethau hynod am dano, er profi ei fod ar y blaen bron i bawb o'i gydoeswyr mewn gallu i gyflawni gorchestion corfforol, y rhai a osodent gryn fri ac enwogrwydd ar y rhai a'u cyflawnent yn ngolwg llawer o ddynion yn yr oes hono. Dywedir iddo unwaith fyned i ymaflyd codwm gyda Dafydd Dafis, Tynant, ac er fod yr olaf yn wr cryf a nerthol iawn, bu raid iddo fyned adref heb godymu ei wrthwynebwr, er fod ei