Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esgidiau newyddion wedi eu dryllio yn chwilfriw yn yr ymdrechfa ffol. Bu Edmund Morgan byw nes myned yn oedranus iawn. Ond er cryfed ydoedd efe, yr oedd iddo yntau ei derfynau, ac nid oedd i fyned drostynt. Pan y cymerwyd ef yn glaf o'r afiechyd y bu efe farw o hono, gofynwyd iddo faint ydoedd ei gywir oedran! Atebodd yntau, "gellwch roddi cant a naw ar fy arch," ac felly y gwnaethpwyd yn ol ei orchymyn, a cherfiwyd hyny ar gareg ei fedd yn yr amser priodol. Clywodd Syr R. W. Vaughan, Nannau, perchenog Dolymynach Isaf y pryd hwnw (Syr W. W. Wynn yw ei berchenog yn awr) am oedran eithriadol ei hen denant hoff, ond amheuai y Barwnig caredig, a oedd hyny yn gywir, ac ofnai fod y gwr hynod o Ddolymynach, wedi methu wrth gyfrif ei oed; ac efe a aeth gan ymofyn yn fanylach am y peth, a chafodd wybod i sicrwydd, nid ei fod yn gant a naw, ond ei fod yn gant a thair ar ddeg, a cherfiwyd hyny, yn ol gorchymyn y Barwnig ffyddlawn ar gareg ei fedd. Bu farw Edmund Morgan, Chwefror 6ed, 1817, yn [113] oed. Torwyd y lle ysgwar a welir ar y beddfaen, yn ddyfnach yn y gareg, er mwyn cywiro y ffigyrau cyntaf, y rhai oeddynt yn hollol gamarweiniol. Y neb a ewyllysio weled drosto ei hun, aed a thröed i mewn i fynwent Eglwys Trawsfynydd—gwelir y bedd ar y llaw ddeheu yn fuan wedi yr eir drwy y fynedfa ir fynwent. Mae ychydig o ol y rhif 9