i'w weled eto, fel pe heb ei lwyr ddileu ymaith, pan yr oeddynt yn cywiro yr oedran ar y gareg. Ceir yn y fynwent hon, feddau eraill hefyd, perthynol i'r teulu hwn, sef yr eiddo Evan Edmund, mab Edmund Morgan, yr hwn a fu farw Mehefin 13eg, 1809, yn 47 mlwydd oed. Hefyd Jane Edmund, gwraig yr uchod, yr hon a fu farw Ebrill 13eg, 1827, yn 51 mlwydd oed; yma hefyd y gorwedd Rowland Edmund, Felynrhydfawr, yr hwn a fu farw Chwefror 27ain, 1819, yn 63 mlwydd oed. Yr oedd yntau yn fab i Edmund Morgan, ac yn dad i'r diweddar wr da hwnw—Morgan Edmund o'r Ucheldref, ger Corwen, ac yn daid i'r Parch. Edmund Morgan Edmunds, Rhiwabon. Hanai y diweddar Barch. E. Edmunds, Dwygyfylchi, o'r teulu hwn; ac o deulu Mr. Williams, o ochr ei dad, yr hana y Parch. J. Evans, Nelson, Morganwg. Er chwilio llawer, ni chawsom ddyddiad genedigaeth na marwolaeth Gwen Morgan, gwraig Edmund Morgan, nac yn wir, ddim am nodwedd ei chymeriad yn foesol na meddyliol. Buasai yn wir dda genym allu anrhegu y darllenydd â mwy o hanes y teulu hwn, ond y mae yr holl oes hono wedi ei chasglu at ei thadau, ac oes arall wedi cyfodi, heb allu mynegi i ni y dirgelwch; ac nid oes dim ffeithiau wedi eu cofnodi am danynt, fel ag i'n galluogi i gyflenwi y diffyg, a gwell genym ninau beidio a dyfalu pethau, y rhai nas gallwn fod yn sicr o'u dilys-
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/40
Gwedd