rwydd. Ond nid yw amser wedi ein hamddifadu a'n hysbeilio o ffeithiau pwysig, y rhai a ddangosant i ni nodwedd cymeriad Jane Edmund, mam Mr. Williams. Gwraig rinweddol a chrefyddol nodedig ydoedd hi, fel y ceir gweled yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn. Aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ydoedd. Nis gallwn nodi yn fanwl amser ei dychweliad at yr Arglwydd, ond y mae sicrwydd ei bod yn proffesu crefydd, ac yn aelod eglwysig naill a'i yn Brynygath, neu Llanfachreth, oddeutu y flwyddyn 1790; gwel Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd tudalen 471. Ond gan y gwyddis mai y Parch. J. Williams, Dolyddelen, a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn offeryn yn ei law i'w dychwelyd ato, nis gallasai ei dychweliad fod wedi cymeryd lle cyn y flwyddyn 1787, a hyny oblegid y bernir oddiar seiliau lled gedyrn, mai yn y flwyddyn uchod y dechreuodd y gwr gonest a rhagorol hwnw, ar y gwaith o bregethu. Yr ydym yn gywir, ac yn ddiogel, wrth ddywedyd ddarfod iddi ddechreu proffesu crefydd rywbryd rhwng 1787 a 1790. Bodolai cyfeillgarwch pur a dwfn rhwng Mr. Williams, Dolyddelen, a Mr. Williams, Wern, ac nid rhyfedd hyny, pan gofiom mai y cyntaf a fu yn foddion i ddwyn mam yr olaf o gyfeiliorni ei ffyrdd, nes ei bod yn gadwedig gan yr Arglwydd, ac yn glodfawr yn Israel. Wedi tramwy gan bregethu teyrnas, Dduw, am dros
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/41
Gwedd