haner can' mlynedd yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd, a hyny mewn ffyddlondeb mawr, aeth y Parch. J. Williams i dangnefedd Mawrth 27ain, 1839, yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Dolyddelen, y dydd Sadwrn canlynol. Parhaodd gyrfa grefyddol Jane Edmund, am o leiaf dair blynedd a deugain, yr hon a redodd yn ffyddlon gan edrych ar Iesu i'r terfyn eithaf. Ysgrifenai Mr. Thomas Price, Maes-y-glwysan, atom, gan ein hysbysu ei fod yn cofio iddo ar un nos Sabbath, fyned i Eglwys Llanfachreth, ac i'r gwr Parchedig oedd yn gweinyddu y noswaith hono, hysbysu y gynulleidfa, fod Jane Edmund, Cwmeisian Ganol, yn dymuno am ran yn ngweddiau yr Eglwys. Pa fodd bynag, pan y daeth awr ei hymddatodiad, yr oedd wedi gwregysu ei lwynau, a'i chanwyllau wedi eu goleuo, a hithau yn hyderus yn dysgwyl am ei Harglwydd, a hi a aeth i orphwysfa pobl Dduw, Medi 28ain, 1833, yn 92 mlwydd oed. Dygwyd ei chorff i'w gladdu yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref Iaf. Sonir hyd heddyw gan yr ardalwyr, am weddi hynod Mr. Williams, wrth y ty cyn cychwyn corff ei fam i'r gladdfa. Pregethodd y nos flaenorol yn y Bala, a hyny yn nodedig ac effeithiol iawn. Cyrhaeddodd i Gwmeisian Ganol yn brydion. Gan y gwyddid ei fod yn dyfod, ac y dywedid mai efe a fyddai yn gwasanaethu wrth y ty, ymgasglodd yno dyrfa anferth, yn enwedig
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/42
Gwedd